Llawfeddyg Milfeddygol

Disgwylir i’r ymgeisydd delfrydol fod yn angerddol am adsefydlu a dulliau triniaeth sy’n ein helpu i leihau poen ac adfer swyddogaeth yn ein cleifion. Mae cymwysterau ychwanegol yn fantais, yn enwedig ym maes adsefydlu a rheoli poen, ond nid ydynt yn hanfodol. Mae peth profiad mewn lleoliad meddygfa gyffredinol yn hanfodol. Byddai diddordeb mewn Meddygaeth Chwaraeon Cŵn hefyd yn fantais.

Disgwylir i chi weithio gyda milfeddygon eraill, ffisiotherapyddion, a staff cymorth i reoli llwyth achosion ein cleifion. Mae gan y clinigau lwyth achosion amrywiol sy’n cynnwys achosion niwrolegol, orthopedig a phoen cronig cymhleth. Mae’r cyfleusterau diagnostig yn cynnwys system mat pwysau Gait 4, thermograffeg ac uned uwchsain gyhyrysgerbydol bwrpasol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei hyfforddi ar yr holl offer diagnostig hyn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael hyfforddiant llawn, (gan gynnwys ardystiad aciwbigo gyda’r ABVA os bydd angen), mentora un-i-un gyda llawfeddygon milfeddygol uwch, a chyllid a chefnogaeth CPD parhaus ar gyfer datblygiad gyrfa.

Hyd at 40 awr yr wythnos, ystyrir swyddi rhan-amser, dim nosweithiau na phenwythnosau na gwaith y tu allan i oriau. Rydym yn cynnig cynllun pensiwn cwmni, cyllid a thâl am amser CPD, wythnos waith 4 diwrnod, a chyflog cystadleuol yn dibynnu ar brofiad.

Am fwy o fanylion, gweler y disgrifiad swydd amgaeedig.

I wneud cais, llenwch y ffurflen isod:

Noder y bydd y broses recriwtio yn cael ei chynnal yn Saesneg.